Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Tŷ neuadd â ffrâm nenfforch yw hwn. Fe'i codwyd ym 1508, tua diwedd yr Oesoedd Canol, ac mae'n nodweddiadol o ffermdai safonol Cymru yn y cyfnod hwnnw.
Ceir pum rhan i'r adeilad. Gwartheg a cheffylau oedd yn byw yn y ddwy isaf, roedd gweithdy yn y rhan ganol a neuadd agored ac ystafell wely yn y ddwy uchaf. Ffrâm goed sydd i'r waliau allanol ac mae'r paneli wedi'u llenwi â phlethwaith o gyll a dwb clai.
Mae'r paneli dwb a'r gwaith coed wedi'u gwyngalchu yn ôl arfer yr Oesoedd Canol.
Mae'r lle tân agored yng nghanol y neuadd a'r mwg yn dianc trwy'r to a'r ffenestri di-wydr. Symudwyd yr adeilad i'r Amgueddfa ym 1954.
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.