Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Yma mae Thomas Jones yn ymddangos gyda'i deulu ym Mhencerrig. Fe'i disgrifiwyd gan ffrind iddo fel 'stwcyn bychan o ddyn, cyn grynned â phêl, gwir gorgi o Gymro". Dangosodd Jones ymwybyddiaeth o'i hunaniaeth Gymreig gydol ei oes - hyd yn oed yn ystod ei gyfnod dramor. Yn Llundain symudai mewn cylchoedd Cymreig, gan gymdeithasu â chydwladwyr fel William Parry; ac yn yr Eidal trefnodd wledd Gŵyl Ddewi ar ysgraff ar y Tiber. Ganed Renaldu yn Llundain, ond daeth yn gyfeillgar â'r peintiwr o Gymru, Jones, yn Rhufain ym 1781. Treuliodd 1786-96 yn India. Cafodd y darlun ymddiddan hwn ei ddangos yn yr Academi Frenhinol ym 1798, ac mae'n darlunio Jones gyda'i offer peintio. Mae ei wraig Maria o Ddenmarc yn eistedd wrth y droell. Mae eu merch Elizabeth yn canu'r spined, a'i chwaer Anna Maria yn sefyll y tu ôl iddi. Mae'n bosibl mai'r dyn arall yw brawd iau Thomas, y Parchedig David Jones.