Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Hyfforddwyd Evan Walters yn Ysgol Gelfyddyd Abertawe. Dosbarth gweithiol oedd ei gefndir ym maes glo Gorllewin Morgannwg. Roedd ei waith yn cynnwys golygfeydd diwydiannol, yn ogystal â thirluniau, portreadau a pheintiadau crefyddol a ysbrydolwyd gan y traddodiad Anghydffurfiol Cymreig. Yn y gwaith hwn o tua 1932 mae osgo'r areithiwr, sy'n debyg i eiddo Crist, yn amwys, ac mae ei gynulleidfa yn dawel, yn hytrach na llawn ysbrydoliaeth oherwydd ei angerdd. Yn y 1930au arafodd gyrfa Walters ac ychydig o ddiddordeb oedd yn ei ddelweddau diwydiannol yn ystod ei oes. Fe'i cofir heddiw am y modd y bu'n pledio achos celfyddyd yng Nghymru a fyddai'n mynegi delfrydau ac enaid Cymru.