Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Llyfryn gwasanaeth darlledu radio i ysgolion yng Nghymru, 'Ein Gwlad Ni', tymor yr hydref 1939. Trefnwyd gan Gyngor Canol Darlledu i'r Ysgolion. Cafodd rhaglenni radio ar gyfer ysgolion eu darlledu o Gaerdydd ac Abertawe yn ystod y 1920au, ond daeth hyn i ben ym 1929, wrth i’r BBC yn Llundain ddadlau nad oedd digon o alw am y gwasanaeth yng Nghymru. Roedd nifer yn anfodlon â hyn, a daeth y BBC dan bwysau i ailgyflwyno gwasanaeth ysgolion ‘rhanbarthol’ i Gymru. Ym 1932 cafodd is-bwyllgor Cymreig ar gyfer Darlledu i Ysgolion ei sefydlu, a daeth y radio yn ôl i’r dosbarth. Roedd y rhaglenni yn trafod pynciau fel hanes Cymru, byd natur a chrefftau, gyda llyfrau i blant a chyngor i athrawon ar sut i ddefnyddio’r rhaglen – ond hefyd sut i gael signal radio da. Erbyn 1937 roedd rhyw 460 ysgol yng Nghymru yn derbyn hyd at 100 darllediad y flwyddyn.