Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Dynion gyda Phowlen
Mae hwn yn un o bedwar gawith efydd a gafodd eu castio, mae'n debyg, yn y 1920au a'r 1930au o batrwm plastr ar gyfer addurn gardd, a fodelwyd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'r plastr gwreiddiol erbyn hyn yn y Musée des Beaux-Arts yn Orleans. Mae'n bosibl mai astudiaeth fechan ar gyfer llestr i adar gael ymdrochi oedd hon i fod. Mae'n debyg iawn i gerfiadau pren Affricanaidd, a disgrifiodd Gaudier-Brzeska y gwaith fel 'astudiaeth o'r cyntefig er mwyn i mi allu cerfio carreg yn fwy pwrpasol'.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.