Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Yr Eglwys Gadeiriol, yr Wynebau Deheuol / Uluru (Ayers Rock)
Mae Uluru yn safle o arwyddocâd ysbrydol eithriadol i bobl Aṉangu frodorol Awstralia. Maen nhw’n credu bod popeth wedi’i greu yn yr ‘amser cyn amser’, sef yr Amser Breuddwydiol. Yn ystod yr Amser Breuddwydiol daeth ysbrydion hynafol i'r Ddaear fel bodau dynol a siapio'r tir, planhigion ac anifeiliaid, cyn troi’n ôl i ysbrydion ar ffurf anifeiliaid, sêr, bryniau a gwrthrychau eraill. Dywedir bod Uluru yn cynnwys un ysbryd hynafol o'r fath. Enwodd Michael Andrews Uluru yn ‘Eglwys Gadeiriol’ yn ei baentiadau, gan gydnabod ei harwyddocâd ysbrydol.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.