Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Newspaper cutting
Teyrnged i Owen Ladd a gyhoeddwyd mewn papur newydd anhysbys.
Bu farw Owen Ladd pan gafodd yr RMS Lusitania ei tharo gan dorpido Almaenig ar 7 Mai 1915. Ganwyd ef ym 1882, yn fab i William a Phoebe Ladd, The Mount, Eglwyswrw, gogledd Sir Benfro. Ym 1911 gadawodd Gymru i ymuno â’i frawd, David, oedd yn fasnachwr coed yn Winnipeg, Canada. Ym mis Mai 1915 roedd yn dychwelyd i Gymru er mwyn ymweld â’i deulu. Roedd hefyd yn ystyried ymuno â’r fyddin.