Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Ransomes, Sims & Jeffries traction engine - DM 3048
Hyd at ddauddegau cynnar y ganrif hon cai'r boll waith cludo trwm, symud celfi a chario nwyddau gryn bellter ar y ffyrdd ei wneud naill ai gan lorïau stêm neu injan dynnu a yrrid gan stêm. Defnyddid injan dynnu at ddibenion amaethyddol yn ogystal, naill ai drwy osod belt o amgylch y chwylolwyn i yrru peiriannau sefydlog, fel meinciau llifio a pheiriannau dyrnu, neu drwy osod wins dan y boiler a defnyddio dwy injan i dynnu aradr aml-gwys yn ôl a blaen ar hyd cae. Adeiladwyd yr injan a welir yn yr Amgueddfa gan Ransomes, Sims a Jefferies yn 1921 ac fe'i defnyddid o'r cyfnod hwnnw tan y chwedegau diweddar bron yn unswydd ar gyfer gyrru mainc lifio ar Ystad Mostyn ym Mostyn, Sir Fflint.
Gan nad oedd wedi teithio ond ychydig filltiroedd ar y ffordd fawr mae ei ger a'i mecanwaith gyrru mewn cyflwr rhagorol. Yn ôl y gyfraith rhaid bod dau ddyn yng nghaban injan dynnu os yw'n cael ei gyrru ar y ffordd — un gyrrwr i weithio'r throtl a'r ger cildroi a llywiwr sy'n gwneud dim ond llywio'r injan. Ar ffordd wastad gall wneud oddeutu pedair milltir yr awr a dyna ryw syniad i chi faint o amser y byddai criw injan oddi cartref wrth symud celfi dros bellteroedd cymhedrol!
Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984