Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Golygfa o Arfordir gyda Bryn Coch
JAWLENSKY, Alexei (1864 - 1941)
Ganed Jawlensky yn Torzhok i'r gogledd-orllewin o Moscow. Bu'n astudio yn St Petersburg a Munich ac ymwelodd â Ffrainc, lle cafodd gwaith Cézanne ddylanwad trwm arno. Ar ôl ymsefydlu ym Munich, bu'n arddangos gyda Kandinsky a Marc, a ffurfiodd Grŵp y Marchog Glas ym 1911. Peintiwyd y gwaith hwn yn Prerow ar arfordir y Môr Baltig, lle'r ystyriai Jawlensky iddo beintio'i 'dirluniau gorau...mewn lliwiau cryf, llachar.'
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.