Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Llythyr yn y Gymraeg a anfonwyd yn 1943, oddi wrth Samuel Jenkins (Pentrecwrt, Llandysul) a fu'n nyddwr am tua hanner canrif ym melin Alltcafan, Pentrecwrt, yn cynnwys manylion diddorol am grefft nyddu, ac yn ymateb i holiadur Amgueddfa Genedlaethol Cymru o 1937 ar ddiwylliant gwerin Cymru. Hefyd llythyr a ddanfonwyd yn 1943, yn y Saesneg, oddi wrth y Parch. J. Owen Jenkins (Hwlffordd) at Dr Iorwerth C. Peate ynglyn â'r uchod.
Holwyddoreg ar Ddiwylliant Gwerin Cymru, 1937 Paratowyd gan Adran Diwylliant Gwerin Amgueddfa Genedlaethol Cymru a chyhoeddwyd yn Rhagfyr 1937. Anfonwyd yr holiadur i blwyfi, ysgolion a unigolion fel modd o gasglu gwybodaeth am bob agwedd o ddiwylliant gwerin Cymru. Rhannwyd yr holiadur o dan y pynciau canlynol: cartref ac aelwyd, bywyd corfforedig, bywyd diwylliannol, crefftau a diwydiannau. Roedd yr amgueddfa yn awyddus i ymgysylltu gyda phobl Cymru a chydweithio gydag atebwyr yr holiadur wrth fynd ati i gasglu hanesion a gwrthrychau fel sail i sefydlu Amgueddfa Werin Cymru yn 1948.