Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Storr Rock, Lady's Cove, le soir
Alfred Sisley oedd yr unig un o'r Argraffiadwyr mawr i weithio yng Nghymru, gan dreulio'r cyfnod rhwng Gorffennaf a Medi 1897 ym Mhenarth ac ym Mae Langland ar benrhyn Gwyr. Y darluniau hyn o dde Cymru, sy'n edrych ar effeithiau'r golau a'r tywydd, yw ei unig olygfeydd o'r môr, ac maent yn dwyn i gof golygfeydd Monet o arfordir Llydaw. Priododd Sisley ei bartner tymor-hir, Eugénie Lescouzec, yn ystod ei gyfnod ym Mhenarth, a'u mis mêl oedd eu cyfnod ym Mae Langland, er bod iechyd y ddau yn dirywio erbyn hynny.
Mae'r lluniau o Fae Langland yn ymrannu'n ddau grwp: yn gyntaf, y golygfeydd o Draeth Bach y Forwyn (Bae Rotherslade heddiw), islaw'r Gwesty Osborne lle roedd y ddau yn aros; yn ail, nifer o ddarluniau o Graig Storr. Roedd y cerrig brig ynysig hyn ger y gwesty'n atyniad mawr iddo, ac fe'i darluniodd adeg llanw a distyll. Mae'r gwaith yma'n dangos ochr ogleddol y graig ar noson braf gyda'r llanw ar drai.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.