Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Sant Ffransis o Assisi yn cofleidio Croes
STROZZI, Bernardo (1581 - 1641/4)
Gwelir Sant Ffransis (1181-1226), sylfaenydd yr Urdd Ffransisgaidd, yng ngwisg yr Urdd. Mae Strozzi, arlunydd o Genoa, yn cyfleu emosiwn cryf iawn y sant wrth iddo feddwl am ei Waredwr ar y Groes. Gerllaw gwelir penglog, arwydd o farwoldeb, a Beibl.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.