Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mab i ffermwr o Swydd Efrog oedd Richard Crawshay (1739-1810) a aeth yn brentis at Mr Bicklewith, a oedd yn berchen ar warws haearn yn Llundain.Erbyn 1763 yr oedd Crawshay yn rhedeg y busnes ac yn fuan daeth yn fasnachwr haearn llwyddiannus ac yn ddeliwr mewn eitemau haearn bwrw. Ym 1786 cafodd brydles Gwaith Haearn Cyfarthfa ym Merthyr Tudful a dod i'w reoli erbyn 1794. Erbyn 1803 hwn oedd canolfan toddi haearn pwysicaf Prydain. Mae'r portread hwn ohono yn un o sawl fersiwn a beintiwyd i deulu a chyfeillion Crawshay.