Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Cychwynnodd Brangwyn ei yrfa yng ngweithdy William Morris (1834-1896) yn bymtheg oed. Teithiodd yn eang yn ei flynyddoedd cynnar gan ddatblygu techneg gyflym a brwdfrydedd at liwiau cryf a ciarosgwro. Enillodd ei blwyf gyda chyfres o ddarluniau morwrol dramatig rhwng 1889 a 1902, ond roedd yn fwy enwog dramor nag ym Mhrydain o hyd. Mae'r cyfansoddiad hwn a wnaed tua 1907 mae'n debyg, yn adlewyrchu gwybodaeth Brangwyn am yr arlunydd Fflemaidd o'r ail ganrif ar bymtheg Jacob Jordaens (1593-1678), a beintiodd sawl llun o nymffiaid a satyriaid yn cael hwyl. Daeth y gwaith i ddwylo Goscombe John, un o gyfeillion yr arlunydd, a bu ar fenthyg yn yr 'Exhibition of Works by Certain Modern Artists of Welsh Birth or Extraction' ym 1913-14.