Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Ailgodir yr adfeilion, cyfyd adeiladau newydd. Mae'r geiriau sydd wedi'u naddu ar y gofeb yn dynodi cadernid '(fort)' Gwlad Belg, a'r dorf yn arwydd o undod a hyder newydd. Dyma Clausen yn cynnwys testun yn pwysleisio parhad y ddynoliaeth i ategu'r llun, '"Old Mother Earth 'carrying on' even while we are doing our best to make it hideous". 'Yn ei eiriau ef, "I believe that when the war is over, the horrors of it will fade from men's minds like a bad dream; and that they will instinctively resume peaceful activities." Dysgodd Clausen ei grefft yn ysgolion celf South Kensington. Roedd yn un o sylfaenwyr y New English Art Club, a chafodd ei ethol yn Athro Paentio yn yr Academi Frenhinol ym 1904. Roedd yn arlunydd uchel ei barch, ac fe'i penodwyd yn artist rhyfel swyddogol ym 1917. Mae'r gwaith hwn yn rhan o bortffolioThe''Great War: Britain's Efforts and Ideals,'gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli'r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a'u hannog i ymroi i'r Frwydr.