Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Pottery mould
Mowld crochenwaith mochyn, Crochendy Ewenni.
Mae hanes hir o greu crochenwaith yn Ewenni ym Mro Morgannwg. Roedd yr holl ddeunydd crai wrth law – clai coch ar gyfer y potiau, deunyddiau gwydro i’w gorffen, cerrig i adeiladu’r odynnau a glo i danio’r crochenwaith. Dros y blynyddoedd, mae 15 crochendy wedi bod yn yr ardal. Dim ond dau sydd yno erbyn heddiw. Mae un teulu, y teulu Jenkins, wedi parhau â’r traddodiad am 8 cenhedlaeth a mwy.