Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Walking stick
Ffon gerdded â phen rhosbren siâp anifail, 1850au-1900au.
Yn nwylo crefftwr medrus, roedd gwrthrychau pren bob dydd yn troi’n gelf. Gall crefftwyr weld patrymau yn y pren, a defnyddio’u doniau i roi cymeriad iddynt. Yn y gorffennol, roedd pobl yn rhoi ffyn wedi’u cerfio yn anrhegion. Roedd rhai ffyn yn dangos diddordebau rhywun neu weithgaredd penodol. Crefft hamdden oedd cerfio ffyn, yn hytrach na ffordd o wneud arian.