Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Coed
Mae'n debyg fod yr olygfa hon o 1913-14 yn darlunio glannau Afon Seine ger Bougival. Mae'n enghraifft nodweddiadol o ddiddordeb Vlaminck yn Cézanne, ac mae'r lliwiau glas tywyll a gwyrdd yn nodweddiadol hefyd. Un o grŵp o weithiau gan Vlaminck a brynwyd gan y chwiorydd Davies ym 1920 yw hwn. Rhoddodd Margaret Davies y darlun i rywun arall ychydig cyn ei marw.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.