Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Broetsh siâp calon Marylyn Minett o Aberfan. Roedd Marylyn yn ddeg mlwydd oed pan lladdwyd hi yn ei hystafell ddosbarth yn Ysgol Gynradd Pantglas, Aberfan ar 21 Hydref 1966. Bu farw Carl, ei brawd bach saith oed hefyd. Am 9:13 y bore Gwener hwnnw, disgynnodd miloedd o dunelli o wastraff glo ar Ysgol Gynradd Pantglas a rhannau eraill o'r pentref gan ladd 116 o blant a 28 oedolyn. Prynodd Marylyn y broetsh calon gyda'i harian poced tra ar drip ysgol i Ynys y Barri. Wedi’r drychineb, cafodd y broetsh ei gadw’n ddiogel gan ei rhieni (Iris a Cliff Minett) yng nghartref y teulu a gafodd ei enwi’n ‘Carlyn’ er cof am Carl a Marylyn.