Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae'r darlun hwn yn dangos fflyd fechan o longau glannau yr Iseldiroedd. Mae milwyr yn gloddesta ar fwrdd cwch camlas, tra bo gŵr anrhydeddus yn cael ei gludo tuag at dref gaerog mewn cwch rhwyfo. Masnachwr cyfoethog o Amsterdam oedd yr artist, van de Cappelle. Roedd yn berchen ar ffatri lifo, ond roedd ganddo yrfa fel morluniwr hefyd, ar ôl dysgu'r grefft iddo'i hun. Daeth â'r math newydd o olygfa forwrol i'w uchafbwynt, gan ddangos dawn eithriadol i gydbwyso ystyriaethau ffurfiol gwneud darluniau a chofnodi awyrgylch, naws a llewyrch. Roedd yn hwyliwr brwd, ac mae'n debyg y byddai'n creu brasluniau ar ei long hwylio bach i"w troi'n beintiadau'n ddiweddarach. Daeth ei forluniau atmosfferig, gydag wybrennau llwydwyn, moroedd symudliw a llongau manwl yn enwog iawn. Roedd ganddo gasgliad rhyfeddol o weithiau celf, gan gynnwys gweithiau gan Rembrandt, Rubens a Hals, yn ogystal ag amryw o beintiadau o'r môr. Y person cyntaf i'w gofnodi'n berchennog ar y darlun hwn oedd Syr Lawrence Dundas (tua 1710-1781), a wnaeth ei ffortiwn fel conctractiwr i'r fyddin yn ystod y Rhyfel Saith Mlynedd. Yr oedd yn noddwr arbennig i'r celfyddydau, a thua 1770 comisynodd Johann Zoffany i beintio portread ohono gyda'i wyr , yn eistedd yn y llyfrgell yn ei gartref yn Llundain a darlun van de Cappelle i'w weld yn amlwg uwchben y lle tân.
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.