Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae’r tirlun hwn yn dangos Rhondda Fawr dan eira. Mae ochr y bryn yn ymestyn i ben y cynfas, gan gynyddu gwastadrwydd y paentiad. Edrychwch ar y cymylau a’r coed. Maen nhw wedi cael eu paentio â naïfrwydd pwrpasol, bron yn “blentynaidd”. Ar waelod y paentiad mae dau gar a thrên yn mynd drwy’r cwm. Wrth i dywyllwch amgylchynu’r tirlun, maen nhw’n ein hatgoffa o bresenoldeb dynol.