Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae’r paentiad yma’n dangos safle cartref gofal wedi’i ddymchwel yn Coventry. Mae George Shaw, a gafodd ei fagu yn y ddinas, yn un o baentwyr cyfoes mwyaf blaenllaw Prydain. Mae cyfres ‘Diwedd...’ Shaw yn cyfleu dirywiad ystâd dai o ganol yr ugeinfed ganrif, rhywbeth sy’n gyffredin ledled y wlad. Mae’r darn yma o waith yn benodol yn arbennig o berthnasol i ddechrau’r 2020au a’r effaith mae’r diffygion difrifol yn y system gofal cymdeithasol, pandemig COVID-19, a’r argyfwng costau byw wedi’u cael ar yr henoed a’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.