Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Ficer Eglwys Caldicot, Sir Fynwy oedd Edmund Turberville Williams. Ar ei apwyntiad, doedd dim ysgol yn y pentref ac addysg sylfaenol yn unig a gai'r plant lleol gyda gweddw o'r ardal yn dysgu iddynt ddarllen y Beibl. Ym 1847 fodd bynnag agorodd Ysgol Eglwys y Santes Fair, yn bennaf o ganlyniad i waith Williams a gyfrannodd £60 o'i boced ei hun at sefydlu'r ysgol.