Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Melin ddŵr ddeulawr a godwyd ym 1853 ac a oedd yn nodweddiadol o gannoedd o felinau a godwyd yng Nghymru i droi ŷd yn flawd. Llifddor yn un pen i lyn y felin, a reolir gan lifer y tu mewn i'r felin, sy'n rheoli'r dŵr a ollyngir i gafn pren ac yna i'r olwyn ddŵr uchredol o haearn bwrw.
Mae echel yr olwyn ddŵr yn mynd i mewn i'r felin trwy agoriad yn y wal. Y tu mewn, mae'r echel yn cynnal rhod bwll sy'n troi ar yr un cyflymder ac yn yr un plân â'r olwyn ddŵr y tu allan. Ar hyd ymyl y rhod bwll hon, ceir cocos pren sy'n cydio mewn olwyn lai, lorweddol o'r enw walwer sydd ar baladr unionsyth ac yn ei throi. Uwchlaw'r walwer, ar y paladr unionsyth, mae'r olwyn gocos fawr, sef y brif olwyn drawsyrru yn y felin. Mae hon, yn ei thro yn gyrru cog o dan bob set o feini malu. Pâr o feini Cymreig a ddefnyddid i falu ceirch, barlys neu fwyd anifeiliaid a phâr o feini Ffrengig caletach i falu gwenith yn flawd i wneud bara.
Yn un pen i'r felin, adeiladwyd odyn deulawr i sychu'r ŷd gan fod yr hinsawdd mor llaith. Caiff y grawn ei godi i'r llawr uchaf i'w storio gan ddefnyddio rhaff godi sachau yn cael ei rheoli gan yr olwyn ddŵr. Ar ôl cyrraedd y llawr uchaf, caiff y sachau eu gwagio i hopranau uwchlaw'r meini. Oddi yma, mae'r grawn yn syrthio i'r pin, sef hopran lai ar ffrâm bren, neu ffrâm y pin, sy'n eistedd ar gas bren (neu gerwyn) o gwmpas bob pâr o feini. O'r pin, mae'r grawn yn llifo ar hyd hopran fach bren sy'n ei gyfeirio at 'lygad' y maen uchaf. Mae dyfais o'r enw gwahoddwr yn ysgwyd yr ŷd i lawr yr hopran fach ac i mewn i'r llygad. Wrth i'r grawn gael ei falu'n flawd, mae'n cael eu gyfeirio at ymylau'r meini ac yna yn cael ei sianelu i'r llawr isaf ar hyd pig sy'n ei arllwys i gafn blawd. Symudwyd y felin i Sain Ffagan ym 1970.
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.