Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
"Walter Keeler yw un o grochenyddion stiwdio mwyaf blaenllaw Prydain. Er bod ei waith yn unigryw ac yn llawn egni, mae’n dal yn ymarferol. Yn nyddiau cynnar ei yrfa roedd yn nodedig am ei ddefnydd radical o grochenwaith caled gwydriad halen traddodiadol. Cynhyrchwyd y tebot bywiog yma gyda’r tasgiadau gwyrdd a brown yng nghanol y 1990au pan oedd yn arbrofi â gwydriad lliwgar ar briddwaith. Disgrifir hyn yn aml fel gwydriad ‘Whieldon’, gan taw Thomas Whieldon oedd y cyntaf i ddatblygu’r dechneg yn Swydd Stafford yn ystod y 1740au. Cyfunir nodweddion ymarferol y llestr ag elfennau chwareus a pheryglus y pigyn a’r ddolen 'crabstock'.
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.