Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Letter
Llythyr a yrrwyd gan y Cunard Ship Company Limited i Hugh Ladd yn ei hysbysu nad oedd unrhyw hanes o’i frawd, Owen Ladd, yn dilyn suddo’r RMS Lusitania.
Bu farw Owen Ladd pan gafodd yr RMS Lusitania ei tharo gan dorpido Almaenig ar 7 Mai 1915. Ganwyd ef ym 1882, yn fab i William a Phoebe Ladd, The Mount, Eglwyswrw, gogledd Sir Benfro. Ym 1911 gadawodd Gymru i ymuno â’i frawd, David, oedd yn fasnachwr coed yn Winnipeg, Canada. Ym mis Mai 1915 roedd yn dychwelyd i Gymru er mwyn ymweld â’i deulu. Roedd hefyd yn ystyried ymuno â’r fyddin.