Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Tankard
"Cynhyrchwyd y tancard gwyn hufennog ar y chwith yn Siegburg, ger Bonn yn y Rhineland, ac arno mae’r llythrennau HH wedi’u mowldio, yn dynodi’r crochenydd Hans Hilgers. Ar y corff silindrog sy’n teneuo gosodwyd tri phanel wedi’u mowldio yn dangos tair moment ym mywyd Samson, yr arwr o’r Hen Destament. Yn y cyntaf mae’n lladd llew a’i ddwylo, yn yr ail caiff ei hudo gan Delila a dorrodd ei wallt a difa ei bwer, ac yn y trydydd mae’n chwalu clwydi Gaza. Seiliwyd y ddau ddarlun cyntaf ar dorluniau gan Virgil Solis. Arferai fod yn rhan o’r casgliad o weithiau celf y dadeni a adeiladwyd ym Mhrâg gan Adalbert von Lanna (1836-1909) cyn cael ei gaffael yn ddiweddarach gan y penadur diemwntau Syr Julius Wernher (1850-1912). "
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.