Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Wassail bowl
Powlen wasael, crochendy Claypits, Ewenni, tua 1910.
Dyma waith grefftwr o bentref Ewenni ym Mro Morgannwg. Mae hanes hir o greu crochenwaith yn Ewenni. Roedd yr holl ddeunydd crai wrth law – clai coch, deunyddiau gwydro i’w gorffen, cerrig i adeiladu’r odynnau a glo i danio’r crochenwaith. Dros y blynyddoedd, mae 15 crochendy wedi bod yn yr ardal. Dim ond dau sydd yno erbyn heddiw.
Llestr gwasael, 1910. Lluniwyd yng nghrochendy Claypits, Ewenni, de Cymru. Byddai’r llestr gwasael yn cael ei lenwi gyda siwgr, ffrwythau, sbeis a chwrw a'i gario o ddrws i ddrws ar Ddydd Calan neu Nos Ystwyll.
(Testun o label arddangosfa Oriel un, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru)
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.