Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Codwyd Institiwt y Gweithwyr Oakdale ym 1917 i fod yn ganolfan ar gyfer bywyd cymdeithasol, addysgol a diwylliannol y gymuned lofaol oedd newydd ddatblygu yno. Cafwyd benthyciad gan y Tredegar Iron and Coal Company i dalu am godi'r adeilad a bu'r glowyr yn ei ad-dalu am rai blynyddoedd. Yn yr adeilad, ceir Llyfrgell, Darllenfa ac Ystafell Bwyllgor ar y llawr isaf, a dwy swyddfa fechan ar gyfer Ysgrifennydd a Rheolwr yr Institiwt. Mae Neuadd Gyngerdd, a ddaliai dros 200 o bobl yn wreiddiol, yn llenwi'r llawr cyntaf i gyd. Roedd Ystafell Filiards ar wahân ond yn gysylltiedig mewn adeilad to fflat y tu ôl i'r Institiwt ac adeiladwyd neuadd gyhoeddus fwy o faint ar ei phen ym 1927. Yn ddiweddarach, addaswyd hon i'w defnyddio fel sinema. Caewyd yr Institiwt ym 1987 ac fe dynnwyd yr adeilad i lawr a'i symud i Sain Ffagan ym 1989. Roedd y sinema'n rhy fawr ar gyfer y safle ac ni chafodd ei symud.