Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
“Bachwch ar gyfleoedd, gwnewch y gorau ohonoch chi’ch hunain ac o’ch bywydau oherwydd dim ond un bywyd rydyn ni’n ei gael.”
Ganed Deloris James ar ynys fechan o’r enw Nevis yn y Caribî
“Roedd fy nain, fy hen nain oedd hi mewn gwirionedd, yn annwyl iawn, hi... wnaeth fy magu nes oeddwn i’n ddeg oed.”
“Bu farw fy mam fiolegol... pan roeddwn i’n tua 21 mis oed, felly chefais i erioed ei hadnabod hi.”
“Roedd hi [fy nain] yn gwneud ychydig o bob dim a dweud y gwir... Ond rwy’n cofio ar un adeg, fe wnaeth hi ein symud ni i St Kitts, gan nad oedd llawer o waith ar Nevis ac fe gafodd hi waith yn y caeau câns siwgr.”
“Arferai hi ddod i’n cyrchu ni, gyda thamaid i fwyta, ac yno roedden ni ar ymyl y cae tra’r oedd hi’n gwneud ei gwaith yn casglu câns.”
“Deng mlwydd oed oeddwn i... fe gyrhaeddais ar y 3ydd o Awst 1964... aethon ni ar fwrdd llong fawr o’r enw’r SS Sorrento. I Gaerdydd roeddwn i’n dod. Rwy’n gallu cofio bod ar y platfform yn aros am y trên yn rhynnu, roedd hi mor oer...”
“I ddechrau, roedd gan fy rhieni fflat yn Butetown, yn Sgwâr Loudoun. Doedd o ddim yn brofiad drwg, er mod i’n cofio cwpl o’r plant yn dweud pethau cas, dim ond cwpl ohonyn nhw, roedd y rhan fwyaf yn iawn.”
“Roeddwn i’n ddarllenwraig frwd... roeddwn i’n byw yn y llyfrgell fwy neu lai, ac yn llowcio llyfrau.”
“Fues i yn yr ysgol a rhoddais gyflwyniad, yn y neuadd, i’r holl staff a disgyblion, fe wnes i goginio bwyd Caribïaidd i’r staff, a mynd â basged o ffrwythau a llysiau gyda mi... ac egluro beth oedden nhw, roedd hynny’n brofiad hyfryd. Rwy’n mwynhau gwneud y math yna o beth.”
“Fe allaf i ddweud nawr mod i wedi cyrraedd oed bodlondeb yn fy mywyd, ‘dw i ddim yn gyfoethog, ond dw i’n fodlon. Mae gen i swydd rwy’n ei mwynhau, mae gen i ddau fab annwyl, ac mae gen i ychydig o ffrindiau agos iawn, rwy’n gymharol iach ac fel ro’n i’n sôn, mae bywyd yn dda, mae bywyd yn dda.”