Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Yn y gwaith hwn, mae ffermwyr yn cludo gwartheg a chynnyrch amaethyddol ar draws y tywod o Ystumllwynarth, adeg llanw isel, i Abertawe a welir yn y pellter. Arbenigai Pritchard mewn peintio golygfeydd glan-môr, er mai’r awyr a’r ffigyrau mewn dillad llachar yw prif bwyslais y cyfansoddiad hwn. Ganed Edward Pritchard ym Mryste a bu'n gweithio yno, yn Llundain a Southampton. Arbenigai ar olygfeydd glan-môr ym Mhrydain a Gwlad Belg. Cafodd yr olygfa hon ei harddangos yn yr Academi Frenhinol ym 1856. Mae'n dangos ffermwyr yn mynd â gwartheg a chynnyrch amaethyddol o Ystumllwynarth ar draws y traeth yn Abertawe ar lanw isel.