Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Ganed yr arlunydd ger Abertawe a bu'n astudio yn yr ysgol gelfyddyd leol a'r Coleg Brenhinol. Mae'r cyfansoddiad haniaethol hwn ar y ffin rhwng peintio a cherflunio a daw o'r flwyddyn y trefnodd Grŵp Swrealaidd Prydain yr Arddangosfa Swrealaidd Ryngwladol yn Llundain. Mae'n deyrnged i Picasso ac Arp, ac yn dadansoddi'r berthynas rhwng y golau a'r tywyll, ffurf a gwagle mewn ffordd debyg i gerfweddau cyfoes Ben Nicholson a cherfiadau Henry Moore.
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.