Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae'r Eidal adeiniog, arwrol yn paratoi i drywanu eryr deuben Awstria-Hwngari, a'r ffigyrau mewn cadwyn oddi tanynt eto i'w hachub. Cafodd yr Eidal ei 'gwaredu' pan ymunodd â'r rhyfel ym 1915 ar ochr Prydain, Ffrainc a Rwsia ar ôl ochri gyda'r Almaen ac Awstria-Hwngari cyn hynny.
Ganwyd Ricketts yn Genéve, yn fab i Sais a Ffrances, a threuliodd ei blentyndod yn Ffrainc a'r Eidal. Ym 1882, daeth i Loegr i astudio yn Ysgol Gelf Lambeth lle cyfarfu â Charles Shannon (cyfrannwr arall at 'Delfrydau'). Aeth y ddau ati i sefydlu a golygu 'The Dial' gyda'i gilydd rhwng 1889 a 1897 a sefydlu gwasg Vale ym 1896-1904. Trodd Ricketts wedyn at gerflunio a phaentio, a bu hefyd yn weithgar ym maes cynllunio theatrig.
Mae'r gwaith hwn yn rhan o bortffolio 'The Great War: Britain's Efforts and Ideals,' gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli'r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a'u hannog i ymroi i'r Frwydr.