Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Creu'r Injan
Dyma printiau Nevinson yn ennyn cryn edmygedd pan gawsant eu harddangos am y tro cyntaf. Yn ôl un beirniad, "he contrives to make thevisitor almost giddy",' a dywedodd un arall bod ganddo rym arbennig, "the power of expressing sensations rather than visual facts".
Astudiodd Nevinson lithograffi ym 1912 dan law Ernest Jackson. Ar ddechrau'r rhyfel, aeth ati i wirfoddoli fel gyrrwr ambiwlans, profiad a gafodd effaith ddirdynnol arno. Fe'i penodwyd yn artist rhyfel swyddogol ym 1917. Mae'r printiau hyn yn dilyn y broses o adeiladu awyren, o greu a chydosod y darnau i'r hedfan yn y pen draw, ac yn 'Weldiwr Asetylen' a 'Cydosod darnau 'gwelwn gyfraniad cynyddol menywod i'r diwydiant.
Ganed Nevinson yn Llundain, yn fab i'r newyddiadurwr a'r gohebydd rhyfel Henry Nevinson. Astudiodd yn Ysgol Gelf Slade ac ym Mharis. Caiff ei ystyried yn un o artistiaid rhyfel enwoca'r cyfnod. Er cymaint oedd dylanwad mudiadau avant-garde celfyddyd Ewrop megis Ciwbiaeth a Dyfodoliaeth arno, mabwysiadodd arddull mwyfwy realistig wrth iddo geisio cyfleu'r gwrthdaro.
Mae'r gwaith hwn yn rhan o bortffolio 'The Great War: Britain's Efforts and Ideals,'gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 i ysbrydoli'r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a'u hannog i ymroi i'r Frwydr.