Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Print argraffiad cyfyngedig rhif 124 o 750. Injan dosbarth 40 Rhif 40 020 'Franconia' i'w gweld yma ar fore o hydref yn niwedd y 1970au yn gwneud gwaith shyntio yng ngweithfeydd cysylltiol yr Associated Octel Company Limited yn Amlwch, Ynys Môn; terfyn y lein gangen o Gaerwen. Traffig y gweithfeydd yn unig fyddai'n defnyddio'r lein hon o 1964 tan i bob gwasanaeth trên orffen ym 1994. Cai sylffwr o Ddociau Mostyn, wedi'i gario mewn wagenni hopran agored, a chlorin hylif mewn tanceri eu cludo i'r gweithfeydd a chludid cynnyrch ethylen deubromid ymaith mewn tanceri. Roedd digon o alw am ddwy drên y diwrnod am gyfnod.Byddai'r trên fel arfer yn cael ei thynnu gan locomotifau dosbarth 24, 25, 40 neu 47 o sied Cyffordd Llandudno.