Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Dinorwig slate quarry, photograph
Tri chwarelwr yn Chwarel Dinorwig. Mae'r chwarelwr ar y dde yn defnyddio Rhys (gordd o 'African Oak') i dorri piler ar ei draws. Mae'r chwarelwr yn y canol yn hollti clwt o lechfaen gan ddefnyddio cŷn manhollt (cŷn llydan a thenau) a gordd y wal (gordd fechan gron wedi ei gwneud o 'African Oak' gyda chylch o haearn am ei deupen). Mae'r chwarelwr ar y chwith yn eistedd ar drafael (mainc bren gyda llafn haearn yn ei ganol) ac yn naddu llechen do gan ddefnyddio cyllell naddu (llafn o haearn gyda carn o bren, a'r ochr finiog o ddur). Mae'r chwarelwyr wedi eu lleoli tu ôl i un o'r gwaliau - cytiau gyda wyneb agored ble byddai chwarelwyr yn hollti a naddu llechi.
Credi fod y ffotograff wedi ei dynnu yn ystod y 1920au cynnar, gan fod y mwyafrif o siediau llifio Chwarel Dinorwig wedi cael eu hadeiladu yn ystod y 1920au. Roedd byrddau llifio ac injians naddu mecanyddol yn y siediau llifio, a ddisodlodd llawer o'r gwaith pileru a naddu gyda llaw. Hefyd mae'r chwarelwyr yn gwisgo dillad tebyg i'r hyn a wisgai chwarelwyr mewn llun a dynnwyd yn Twll y Mwg, Chwarel Dinorwig, yn 1921 (2018.171/1).