Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Painting
Darlun a wnaed gan Anthony Evans fel ymateb i drychineb Aberfan ym 1966. Roedd yn artist yn ei arddegau ar y pryd.
"Gwnaethpwyd y darlun yn syth wedi'r digwyddiad. Roeddwn hefyd yn byw mewn pentre glofaol, sef Cross Hands, ac yr olygfa oedd 'da fi pob bore oedd tip gwastraff anferthol. Roedd fy nhad yn lowr yn y Tymbl. Mae'r ffeithiau hynny'n berthnasol oherwydd roeddwn yn medru uniaethu gyda'r erchylltra. Fe ddefnyddies fy hoff gyfrwng ar y pryd, sef inciau lliw ac inc india. Cafodd y llun ei wneud heb unrhyw fraslunio paratoadol ac o fewn byr o amser. Roedd yn ymateb hollol emosiynol a theimladwy." Anthony Evans, 2021.