Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Medal
Sefydlwyd Amgueddfa Cymru drwy Siarter Frenhinol ym 1907, ac ym 1982 rhoddwyd medal goffa i staff fel modd o goffau’r pen-blwydd yn 75 oed.
Roedd y fedal hon yn eiddo i Mr Hugh Richard Jones. Dechreuodd Mr Hugh Richard Jones (a oedd yn cael ei adnabod fel Hugh Rich) weithio yn Chwarel Dinorwig yn Ebrill 1926 (15 oed) fel prentis ffitar. Yn ddiweddarach fe’i dyrchafwyd yn Brif Beiriannydd Chwarel Dinorwig a daliodd y swydd honno hyd nes i’r chwarel gau yn Awst 1969. Chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu Amgueddfa Lechi Cymru yng ngweithdai’r Gilfach Ddu, a daeth ei freuddwyd o ddiogelu’r gweithdai yn realiti pan agorwyd yr amgueddfa gyntaf ym mis Mai 1972. Penodwyd Hugh Richard Jones yn Guradur cyntaf Amgueddfa Lechi Cymru a bu’n gweithio yno hyd ei ymddeoliad ym mis Mawrth 1981. Credir i’r fedal hon gael ei chyflwyno iddo yn 1982, tua’r run pryd a chyflwynwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig iddo i gydnabod y rhan allweddol a chwaraeodd wrth ddiogelu gweithdai’r Gilfach Ddu, gwarchod peiriannau a gwrthrychau, a sefydlu Amgueddfa Lechi Cymru.