Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Ganwyd Peter Prendergast ger Caerffili, a chafodd ei swyno gan fynyddoedd y gogledd.
Mae ei arddull fynegiadol yn llawn egni ac awch, ac yn gyfrwng perffaith i bortreadu’r clogwyni geirwon a ffurfiwyd gan flynyddoedd o gloddio llechi.
Mae’r brasluniau hyn ar gyfer Blaenau Ffestiniog yn dangos sut oedd Prendergast yn adeiladu lliwiau a llinellau i ddal y dirwedd atmosfferig.
Cafodd y gwaith gorffenedig ei bleidleisio fel un o weithiau mwyaf poblogaidd ein casgliad fel rhan o ymgyrch 100 Celf ar Instagram (@celfarycyd) yn 2020.