Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
''Ma hwn yn rhywbeth sydd wedi bod gan gaplaniaid ers y dechrau – sef set cymun maes. Dwi wedi ei ddefnyddio yng Ngogledd Iwerddon, yn y Balkans, Rhyfel Cyntaf y Gwlff ac Ail Ryfel y Gwlff. Chi’n cario gyda chi popeth sy’n angenrheidiol arnoch chi. Ym mhob cyrch chi’n cynnal gwasanaethau lle bynnag ych chi yn gallu cael lle i wneud hynny – dw i ’di neud e ar gefn Land Rover. Ma hwn wedi teithio’r byd. On i’n cynnal gwasanaethau’r eglwys yn gyson iawn pan on i ffwrdd mewn gwledydd eraill. Odd rhaid i chi fod yn hyblyg iawn a’u cynnal nhw lle bynnag och chi’n gallu cael amser a lle i gynnal nhw'' (Aled Huw Thomas)
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.