Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Catherine Vaughan (née Nanney) (1692-1768)
Fellowes Pinx 1751' yw llofnod yr arlunydd ar gefn y cynfas hwn. Er na chaiff y wraig yn y llun ei henwi, mae'r tebygrwydd rhwng y portread hwn a'r un o William Vaughan yn awgrymu mai ei wraig Catherine Nanney (1692-1768) yw'r testun. Roedd yn ferch ac yn etifedd i Hugh Nanney, AS Sir Feirionnydd a hi oedd aelod olaf hen deulu a honnai fod yn ddisgynyddion i'r tywysog Ynyr Hen, o'r 13eg ganrif. Ei phriodas ym 1732 oedd yr olaf o gyfres o briodasau rhwng teuluoedd Nanney a Vaughan, y ddau deulu mwyaf dylanwadol yn Sir Feirionnydd. Daeth y darlun o Nannau ger Dolgellau.
Pwnc
Celf
Rhif yr Eitem
NMW A 2412
Mesuriadau
Uchder
(cm): 76
Lled
(cm): 63.2
Uchder
(in): 29
Lled
(in): 24
Techneg
oil on canvas
Techniques (fine art)
art dept - fine
Fine Art - painting
Deunydd
oil
canvas
Lleoliad
In store
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.