Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Y Cariadon
Yn 2018, caffaelodd yr Amgueddfa saith gwaith gan George Poole, artist sydd heb gael sylw dyledus yn hanes celf Cymru. Roedd Poole yn teimlo gwrthdaro mewnol o weithio gyda sefydliadau celf, ac roedd yn ochelgar rhag eu pŵer. Gan ddwyn ysbrydoliaeth o drefi diwydiannol Cymreig, mae'n cyflwyno safbwynt di-flewyn-ar-dafod ar fywyd gwaith. Yn y gwaith hwn, mae'r cariadon yn troi eu cefnau arnom, gyda'r dyffryn yn ymestyn o'u blaenau.
Label gan Millie Bethel o'r grŵp Codi'r Llen ar Gaffael