St Fagans Castle - Casgliadau Arlein | Museum Wales
Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Gweld ein Polisi Cwcis
Gosodiadau

Gosodiadau Cwcis

Angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.

 

Cwcis sy'n mesur defnydd y wefan

Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.

 

Cwcis sy'n helpu gyda chyfathrebu a marchnata

Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.

 
 
Gweld ein Polisi Cwcis
Cyfrannwch
Amgueddfa Cymru
English
Fy nghyfrif
Cyfrannwch
Casgliadau ac Ymchwil
Adrannau Casgliadau Arlein Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol

Teulu
Amgueddfa
Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Adrannau
  • Tudalen Hon: Casgliadau Arlein
  • Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol
  • Erthyglau
  • Cymru Hynafol
  • Celf
  • Celf ar y Cyd
  • Hanes
  • Hanes Naturiol
  • Yr Amgueddfa ar Waith
  • Iechyd, Lles ac Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru
  • Amdanom Ni
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Siop
  • Cefnogwch ni
  • Digwyddiadau
  • Cymryd Rhan
  • Iechyd a Lles

Casgliadau Arlein

Amgueddfa Cymru

Chwilio Uwch

Chwilio Uwch

Image filter options
Nôl i Ganlyniadau

St Fagans Castle

Mae Castell Sain Ffagan yn adeilad rhestredig Gradd 1. Saif ar adfeilion hen gastell Normanaidd, a dyna pam y mae’n cael ei alw’n gastell hyd heddiw. Adeiladwyd y plasdy presennol tua 1580, ar ffurf siâp ‘E’, a ddaeth yn ffasiwn yn ystod teyrnasiad Elisabeth I. Hwn oedd yr adeilad cymesur cyntaf yn ne Cymru ar y pryd. Ym 1946, rhoddodd Iarll Plymouth y Castell a deunaw erw o dir i Amgueddfa Genedlaethol Cymru i fod yn safle ar gyfer amgueddfa genedlaethol awyr agored. Adeiladwyd y castell cynharaf ar y safle yma gan arglwydd Normanaidd Robert Le Sore yn yr 1100au. Yn ystod yr 1300au, ail-adeiladwyd y castell mewn cerrig. Dechreuodd cyfreithiwr lleol o'r enw Dr John Gibbon ar y gwaith o godi'r tŷ presennol ym 1580 ond mae'n bosib na fu byth yn byw yma.

Prynwyd y tŷ a'r ystâd ym 1616 gan Edward Lewis, y Fan, Caerffili, ac Edward a'i wraig Blanche a gwblhaodd lawer o ffitiadau mewnol yr adeilad ym 1620. Mae llythrennau blaen eu henwau, EBL, a'r dyddiad, 1620, i'w gweld ar baneli ac ar dalpentanau yn yr adeilad. Dechreuodd gysylltiad teulu’r Plymouth â’r lle ym 1730 pan briododd eu haeres, Elizabeth, ag Other, trydydd Iarll Plymouth a nawfed Barwn Windsor.

Cafodd y tŷ ei rentu i wahanol denantiaid yn y 1700au ac, yn ddiweddarach, bu pobl leol yn ei ddefnyddio dros dro, yn cynnwys yr ysgolfeistr lleol a oedd yn cadw ysgol yn y parlwr.

Mae sawl teulu wedi byw yn y Castell dros y blynyddoedd, ond stori teulu Windsor sy'n cael ei hadrodd yma heddiw. Rhwng 1885 a 1910 bu tad Iarll Plymouth, sef Arglwydd Windsor, ei wraig a'u pedwar o blant yn treulio eu gwyliau haf yma. Roedd yr Arglwydd a'i feibion yn mwynhau chwarae criced i dîm y pentref tra byddai'r Arglwyddes yn ymlacio trwy ddarlunio yn yr ardd Eidalaidd. Byddai angen llawer o staff i redeg y Castell tra roedd y teulu yma - tua 40 i gyd, gan gynnwys cogydd, stiward, bwtler a morwynion y gegin a’r golchdy. Byddai’r rhain yn teithio o dŷ i dŷ gyda’r teulu. Pan ddychwelai’r teulu i’w cartref parhaol – Hewell Grange, yn Swydd Gaerwrangon – dim ond yr howscipar a rhai o’r morwynion byddai’n aros i ofalu am y Castell.

Yng nghyfnod teulu Windsor, gwariwyd miloedd o bunnoedd ar waith adnewyddu, gan gynnwys gosod system golau trydan a weithiai trwy bwmpio dŵr o felin ŷd y pentref.

Pwnc

Bywyd Gwerin

Rhif yr Eitem

48.354.277.1

Derbyniad

Purchase, 5/11/1948

Lleoliad

Exhibit

Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Eitemau cysylltiedig

Bywyd Gwerin

Slide

Ffotograffydd | photographer: Bick, Leonard
(1960s - 1970s)
F2022.121.5
Mwy am yr eitem hon
Bywyd Gwerin

Slide

Ffotograffydd | photographer: Bick, Leonard
(1960s - 1970s)
F2022.121.6
Mwy am yr eitem hon
Bywyd Gwerin

Slide

Ffotograffydd | photographer: Bick, Leonard
(1960s - 1970s)
F2022.121.8
Mwy am yr eitem hon
Bywyd Gwerin

Slide

Ffotograffydd | photographer: Bick, Leonard
(1960s - 1970s)
F2022.121.16
Mwy am yr eitem hon

Map o'r Wefan

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Ymweld
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Blog
  • Ein Cefnogi
  • Siop
  • Llogi Cyfleusterau

Ein Hamgueddfeydd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Wlân Cymru
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ymunwch â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Cymryd Rhan
  • Tanysgrifio i'n Cylchlythyr
  • Facebook
  • Instagram

Corfforaethol

  • Amdanom ni
  • Swyddi
  • Swyddfa'r Wasg
  • Llyfrgell Luniau
  • Canolfan Casgliadau Cenedlaethol
  • Gweithio gydag eraill
  • Datganiad hygyrchedd
  • Cwcis
  • Hawlfraint
Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Facebook
  • Instagram
Rhif Elusen 525774
× ❮ ❯