Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Siop gyffredinol nodweddiadol o gymoedd diwydiannol y de. Mae tair rhan i'r siop, ar ddau lawr, yn cynnwys adrannau nwyddau haearn a bwydydd. Ym 1880, datblygodd William Llewellyn ei fusnes groser trwy adeiladu'r siop hon. Dim ond y rhan ganol oedd yn yr adeilad gwreiddiol, ac roedd y storfa a thŷ William Llewellyn ar y naill ochr a'r llall. Cwmni Parnalls of Bristol a ddaeth i osod y silffoedd mahogani, y cownteri a'r biniau ac, erbyn 1912, roedd y siop wedi ehangu i lawr isaf y tŷ hefyd ac roedden nhw'n gwerthu dillad.
Cyn hir, roedd y siop wedi ehangu eto i gynnwys llawr cyntaf y tŷ a llawr isaf y tri thŷ nesaf. Erbyn 1916, roedd Siop Gwalia yn cynnwys becws ac adrannau nwyddau haearn, groser, dillad dynion, bwyd anifeiliaid a fferyllfa. Roedd aelodau o'r staff yn cysgu yn yr atigau ac yn cael 8 swllt (40c) o gyflog yr wythnos.
Bu farw'r Henadur William Llewellyn ym 1924 ac mae'r siop yn ymddangos heddiw fel y byddai tua diwedd y 1920au pan oedd ei feibion yn ei rhedeg. Caewyd hi ym 1973 a'i symud i'r Amgueddfa ym 1988.
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.