Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
John Parry (1724-1799)
Cafodd John Parry (1724-1797) o Wern-fawr, Sir Gaernarfon, ei addysg yng Nghaergrawnt ac yn Lincoln's Inn. Ym 1769, daeth yn dwrnai cyffredinol ar gyfer Gogledd Cymru, ac yn Gwnstabl Castell Conwy. Cafodd ei ethol yn AS dros Sir Gaernarfon ym 1780. Ar waethaf y gefnogaeth wleidyddol gan yr Arglwydd Bulkeley grymus, rhwystrwyd ei uchelgais i fod yn un o farnwyr Cymru gan y canghellor, yr Arglwydd Thurlow. Mae'r arfbais a'r ymyl hirgrwn ffugiol o gwmpas y portread yn nodweddion hynafaidd yn y gwaith hwn, sy'n dyddio,yn fwy na thebyg o'r 1750au.