Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Digwyddiad Eithriadol
Mae gwaith Eileen Agar, boed yn waith collage, gwrthrychau neu baentiadau yn canolbwyntio'n bennaf ar ffurfiau damweiniol ar natur a chynhyrchu ffurfiau, gan ganfod mynegiant o ffrwythlondeb. Yna mae'n cymryd y ffurfiau hyn ac yn eu hailddosbarthu a'u hailddyfeisio trwy eu rhoi naill ai ar gefndir lliw coedwigoedd llwydni pridd neu fel yn y gwaith hwn, gwaelod y môr. Mae Eileen Agar yn mabwysiadu realiti deunydd naturiol ac yn ei gyflwyno mewn lleoliad swreal, anymwybodol a chwedlonol. Ar ôl gostyngiad dramatig yn ei chynhyrchiad yn ystod yr Ail Ryfel Byd, wedi’r rhyfel daeth cyfnod newydd o frwdfrydedd a lliw. Mae Digwyddiad Eithriadol yn crynhoi'r cyfnod adnewyddu hwn. Mae'n cyfuno delweddau o gregyn, gwymon a gwrthrychau wedi'u gwneud gan ddyn i greu creaduriaid môr swreal.