Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Thomas ap Ieuan ap David o Arddynwent (g.1560)
Ȃ hithau'n gyfnod crefyddol iawn, roedd pobl yn credu mai paratoad ar gyfer y bywyd tragwyddol oedd bywyd ar y ddaear. Yma mae Thomas ap Ieuan o Arddynwent, Sir y Fflint yn ymbil am iachawdwriaeth gyda'r arysgrif 'Resvrgam' (boed i mi godi eto). Mae'r robin goch yn symbol o Atgyfodiad Crist - credid bod drain y goron wedi mynd drwy frest yr aderyn. Mae'r arfbais yn cofnodi llinach y Thomasiaid, sy'n cynnwys y teulu Davies Gwysaney.