Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Ochr dde'r H.M.H.S. ST DAVID, wrth ei gwaith fel fferi cwmni GWR. Adeiladwyd y llong ym 1906 gan John Brown & Co., Clydebank, ar gyfer gwasanaeth fferi newydd Abergwaun i Rosslare. Heb ddyddiad na llofnod.
Cafodd yr S.S. ST DAVID, llong ager â thri thyrbin ei hadeiladu ym 1906 gan John Brown & Co. Ltd., Clydesbank ar gyfer cwmni rheilffordd Great Western. Roedd yn un o bedair llong a adeiladwyd rhwng 1906 a 1908 ar gyfer gwasanaeth newydd GWR o Abergwaun i Rosslare. Cafodd y pedair eu defnyddio fel llongau ysbyty yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gludo milwyr clwyfedig yn ôl o Ffrainc. Adeiladwyd llong arall yn lle'r St David ym 1932, a chafodd ei hailenwi yn Rosslare. Ni pharodd yn hir iawn wedyn, a chafodd ei datgymalu maes o law yng Nghasnewydd ym 1933.
The S.S. ST DAVID was a triple-screw turbine steamer built in 1906 by John Brown & Co. Ltd., Clydesbank for the Great Western Railway. She was one of four vessels built between 1906 and 1908 for the GWR’s newly-inaugurated service from Fishguard to Rosslare. All four vessels saw service as hospital ships during the First World War, bringing wounded soldiers back from France. When a replacement St David was built in 1932, this vessel was re-named Rosslare, but she was withdrawn from service soon afterwards and cut up at Newport in 1933.