Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Sauce-tureen
Seiliwyd y ddysgl hufen hon ar ddyluniad oedd yn gyffredin i nifer o ffatrïoedd porslen ym Mharis ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Wedi’u paentio mewn rhuban o’i hamgylch mae blodau gardd, gan gynnwys morning glory, rhosynnau pinc a thiwlipiaid. Roedd Ffatri Abertawe yn enwog am safon ei phaentio blodau a mwy na thebyg taw gwaith David Evans a welwn yma, a weithiodd yn ddiweddarach yn ffatri Grainger yng Nghaerwrangon ac yn Swydd Stafford.