Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae ffigwr Doethineb, sy'n gwisgo helmed Gorinthaidd a mantel glasurol, yn ymdrechu i godi Rhyddid wrth i'w thraed lithro'n beryglus dros waelod y cerflun. Mae'n noeth a bregus, ar wahân i'w chap rhyddid neu Brygiaidd, symbol grymus o ryddid a chwyldro Ffrengig.Caiff Dalou ei gyfri yn un o gerflunwyr Ffrengig pwysicaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwelir afiaith ei dechneg yma yn y wedd sensitif a’r mowldio cain. Roedd yn ddelfrydwr Gweriniaethol a gefnogodd wrthryfel Comiwn 1871 ynghyd â Gustave Courbet. Cafodd ei alltudio i Lundain o ganlyniad i hyn, lle bu’n dysgu ac yn ysbrydoli nifer o gerflunwyr Prydeinig. Dyma astudiaeth fechan ar gyfer cofeb Dalou i'r gwleidydd Gweriniaethol, Léon Gambetta.